Mae’r vuvuzela wedi troi’n rhan annatod o Gwpan Pêl-droed y Byd ond fyddan nhw ddim yn cael eu caniatáu yn un o gystadlaethau mawr eraill yr haf.

Mae’r offeryn swnllyd wedi ei wahardd o Wimbledon eleni, oherwydd bod y trefnwyr yn pryderu y bydden nhw’n cael eu defnyddio i dynnu sylw’r chwaraewyr.

Yn ogystal, o dan reolau newydd, fydd cefnogwyr ddim yn cael dod â fflagiau mawr gyda nhw i SW19 a fydd Cwpan y Byd ddim yn cael ei ddangos ar sgriniau yno.

Cefnogwyr ‘yn deall’

“O safbwynt y sŵn fe allen nhw dynnu sylw chwaraewyr a gwylwyr,” meddai llefarydd ar ran Wimbledon. “Bydd y cefnogwyr yn deall.

“R’yn ni’n gwybod bod pobol eisiau gwylio Cwpan y Byd ond mae yna sawl ffordd arall i wneud hynny heb wylio’r gemau yma ar y sgriniau mawr.”

Mae gobeithion Prydain yn dibynnu ar y Sgotyn 23 oed, Andy Murray, eto eleni. Am y tro cyntaf yn hanes 113 mlynedd y gystadleuaeth fydd yna neb o Loegr yn cymryd rhan yn y senglau.