Mae arweinwyr busnes wedi rhybuddio’r Llywodraeth y dylen nhw fod yn “ofalus” cyn torri cyllidebau prifysgolion.
Mae llythyr at bapur newydd y Daily Telegraph gan brif weithredwyr Shell, Network Rail, Centrica a GlaxoSmithKline Pharmaceuticals UK, yn pwysleisio “cyfraniad hanfodol” prifysgolion tuag at ffyniant tymor hir economi gwledydd Prydain.
Yn y llythyr maen nhw’n galw ar y Llywodraeth i “sicrhau eu bod nhw’n cefnogi gwyddoniaeth, arloesi a gwybodaeth” er mwyn sicrhau twf economaidd yn y dyfodol.
Fe allai’r cysylltiadau rhwng y sector busnes a phrifysgolion “roi hwb mawr i’r economi” medden nhw.
Torri £200 miliwn
Daw’r apêl yn dilyn cyhoeddiad fis diwethaf y bydd Llywodraeth San Steffan yn torri £200 miliwn o’r gyllideb addysg uwch.
“Mae busnesau ym Mhrydain yn dibynnu ar brifysgolion gwych Prydain er mwyn cael graddedigion talentog, ymchwil ac arloesedd,” meddai’r llythyr.
“Mae busnesau yn helpu wrth ariannu addysg uwch, sydd yn ei dro yn gwneud Prydain yn lle da i fuddsoddi ynddo.
“R’yn ni angen cynllun credadwy er mwyn i adfer cydbwysedd ariannol ond yn annog y Llywodraeth i fod yn ofalus wrth ymdrin ag elfennau o wariant cyhoeddus sy’n hanfodol i dwf a llewyrch ein heconomi.
“Dyna y mae America a’n cystadleuwyr eraill rhyngwladol yn ei wneud. Allwn ni ddim fforddio cael ein gadael ar ôl yn y tablau rhyngwladol.”