Fe fydd ASau’n cael clywed am fanylion y newidiadau mawr sydd am ddigwydd i’r drefn ariannol yn ystod y ddwy flynedd nesa’.

Neithiwr, mewn araith yn y Ddinas yn Llundain, fe gyhoeddodd y Canghellor bod Awdurdod Gwasanaethau Ariannol yr FSA yn dod i ben yn 2012.

Roedd wedi methu’n llwyr i atal helyntion ariannol y banciau, meddai George Osborne, wrth gyhoeddi y byddai’r cyfrifoldeb am reoleiddio’r sector ariannol yn cael ei drosglwyddo i Fanc Lloegr.

Fe fydd y Banc hefyd yn cael rhagor o bwerau i sicrhau sefydlogrwydd ariannol gan geisio rhagweld trafferthion.

Mae hyn yn chwalu’r holl drefn a gafodd ei chreu gan Gordon Brown pan ddaeth yn Ganghellor yn 1997.

Y newid

Rhwng hyn a diwedd yr FSA yn 2012, fe fydd tri phwyllgor newydd yn cael eu creu o dan adain y Banc – yr Awdurdod Darbodus, y Pwyllgor Polisi Ariannol a’r Awdurdod Gwarchod Defnyddwyr a Marchnadoedd.

• Yr Awdurdod Darbodus fydd yn cadw llygad ar y sefydliadau ariannol.

• Y Pwyllgor Polisi Ariannol fydd yn gwylio am fygythiadau ac yn ceisio cael sefydlogrwydd.

• Yr Awdurdod Gwarchod fydd yn rheoleiddio cwmnïau ariannol sy’n cynnig gwasanaethau i gwsmeriaid.

Er hynny, mae’r penderfyniad i wahanu banciau buddsoddi a banciau stryd fawr wedi ei ohirio – fe fydd Comisiwn yn cael ei greu i ystyried hynny.

Llun: George Osborne yn rhoi ei araith neithiwr yn y Mansion House yn Ninas Llundain (Gwifren PA)