Fe fydd blaenasgellwr y Dreigiau, Gavin Thomas, yn chwarae i Gymru am y tro cynta’ ers tair blynedd, yn erbyn y Crysau Duon ddydd Sadwrn.

Ac mae yna res o chwaraewyr ifanc ar y fainc a allai ddod ymlaen i wynebu her fwya’u gyrfaoedd hyd yn hyn.

Thomas yw un o dri newid yn y tîm ar gyfer dydd Sadwrn, gydag Andrew Bishop yn dod i mewn yn y canol ac Alun-Wyn Jones yn yr ail reng.

Mae Thomas yn cymryd lle blaenasgellwr y Gleision, Sam Warburton, a Bishop yn lle’r Gwalch, James Hook, sydd ill dau wedi eu hanafu.

Mae Alun-Wyn Jones yn ennill ei le ar draul Deiniol Jones, sydd ar y fainc. Yn ôl yr hyfforddwr, Warren Gatland, roedd Alun-Wyn wedi gwneud argraff dda iawn wrth ymarfer.

Yr enw hollol newydd ar y fainc yw mewnwr y Scarlets, Tavis Knoyle, a fyddai’n cael ei gap cynt’ pebai’n dod ymlaen.

Meddai Warren Gatland

Yn ôl Warren Gatland, Andrew Bishop, yw un o’r chwaraewyr sydd wedi bod ar ei orau y tymor yma.

“Mae Gavin Thomas yn flaenasgellwr profiadol sy’n gwybod popeth am yr hyn sydd ei angen ar lefel ryngwladol,” meddai.

Ac am Tavis Knoyle, a gafodd ei ben-blwydd yn 20 bythefnos yn ôl – “os ydych chi’n ddigon da, rydych chi’n ddigon hen”.

Y tîm
Lee Byrne, Leigh Halfpenny, Andrew Bishop, Jamie Roberts, Tom Prydie; Stephen Jones, Mike Phillips; Paul James, Matthew Rees, Adam Jones, Bradley Davies, Alun-Wyn Jones, Jonathan Thomas, Gavin Thomas, Ryan Jones (capt)

Eilyddion
Huw Bennett, John Yapp, Deiniol Jones, Rob McCusker, Tavis Knoyle, Dan Biggar, Jonathan Davies

Llun; Yr wyneb newydd – Tavis Knoyle