Mae chwech o heddweision a naw o wrthryfelwyr wedi’u lladd mewn digwyddiadau saethu ar wahân yng Ngogledd y Cawcasws, Rwsia, yn ôl yr heddlu lleol.
Fe ddywedodd llefarydd bod pedwar plismon wedi’u lladd a thri wedi’u hanafu ym mhentref Kostek yn nhalaith Dagestan yn ystod gwarchae pan laddwyd pump o wrthryfelwyr hefyd.
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i arfau a ffrwydron yn y fflatiau ble’r oedd y gwrthryfelwyr yn cuddio, meddai.
Ymosodiadau eraill
Mewn digwyddiad ar wahân, fe gafodd pedwar gwrthryfelwr arall eu lladd ar ôl anwybyddu gorchymyn yr heddlu i stopio. Roedden nhw hefyd wedi dechrau saethu at swyddogion heddlu.
Fe fu dau swyddog heddlu arall farw mewn ymosodiadau pellach – un yn Dagestan ac un yn nhalaith Kabardino-Balkaria gerllaw.
Cefndir
Mae Gogledd y Cawcasws wedi gweld cynnydd mewn trais ers blwyddyn – trais sy’n ymwneud â gwrthryfelwyr Islamaidd.
Mae Dagestan ei hun y drws nesa’ i weriniaeth gythryblus Chechnya ac mae ymwelwyr yn cael eu rhybuddio i gadw draw.
Llun; Baner Dagestan