Mae BP wedi cytuno i roi £13.4 biliwn at gronfa i dalu iawn i bobol sydd wedi colli’u swyddi a’u bywoliaeth oherwydd llif olew Gwlff Mecsico.
Fe fydd y gronfa annibynnol yn cael ei goruchwylio gan y cyfreithiwr Kenneth Feinberg, a oedd hefyd yn gyfrifol am daliadau i deuluoedd y rhai a ddioddefodd yn ymosodiadau terfysgol 11 Medi 2001.
Fe ddaeth y cyhoeddiad am y gronfa wedi cyfarfod rhwng penaethiaid BP a’r Arlywydd Barack Obama yn y Tŷ Gwyn yn gynharach heddiw.
Addo gweithredu
Neithiwr, roedd yr Arlywydd wedi defnyddio darllediad teledu i geisio argyhoeddi pobol yr Unol Daleithiau ei fod yn gweithredu’n galed yn erbyn y cwmni olew sy’n cael eu beio am y ffrwydrad a achosodd y llif olew ac am fethu â’i reoli.
Hyd yn oed wedyn, roedd Barack Obama wedi cael ei feirniadu am fethu â gweithredu’n ddigon cadarn – beirniadaeth a allai effeithio ar etholiadau i’r Gyngres yn yr hydref.
Ers y trychineb amgylcheddol mwyaf yn hanes y wlad a ddechreuodd bron i ddeufis yn ôl, mae miliynau ar filiynau o alwyni olew crai yn parhau i lygru’r Gwlff.
Llun: Cadeirydd BP Carl-Henric Svanberg (canol) yn cyrraedd y cyfarfod – y Prif Weithredwr, Tony Hayward wrth ei sodlau (AP Photo)