Y Swistir 1 Sbaen 0

Mae’r Swistir wedi achosi sioc fwyaf y Cwpan y Byd hyd yn hyn trwy guro Sbaen- un o’r ffefrynnau mwyaf i ennill y gystadleuaeth.

Er i’r Sbaenwyr reoli’r meddiant a’r chwarae a chael tair gwaith mwy o gynigion, y Swistir a gafodd yr unig gôl trwy Gelson Fernandes ar ôl 52 munud – y tro cynta’ erioed iddyn nhw guro Sbaen.

Fe dreiddiodd Eren Derdiyok trwy amddiffyn Sbaen cyn disgyn dros olwr Sbaen Iker Casillas ac fe fethodd amddiffynnwr Barcelona, Gerard Pique, â chlirio’r bêl cyn i Fernades ganfod cefn y rhwyd.

Sbaen yn dechrau orau

Sbaen a ddechreuodd y gêm orau ac fe fethodd David Villa a Gerard Pique gyfleoedd i sgorio yn yr hanner cyntaf.

Fe arbedodd golwr y Swistir yn dda o ymdrech Fernando Torres yn ystod yr ail hanner cyn i Xabi Alonso daro’r trawst i Sbaen wedi 70 munud.

Ond roedd gwrthymosod y Swistir yn dal i fygwth Sbaen ac fe darodd Derdiyok y postyn gyda chwarter awr o’r gêm yn weddill.

Er gwaethaf y pwysau a roddodd Sbaen ar y Swistir, fe ddaliodd eu hamddiffyn yn gadarn am y fuddugoliaeth allweddol yng Ngrŵp H.

Fe fydd y Swistir yng ngrŵp Cymru ar gyfer gemau rhagbrofol pencampwriaeth Ewrop 2012.

Llun: Y Swistir yn dathlu (Gwifren PA)