O’n i’n lwcus. O’dd yr hen Pantycelyn yn bach o dwll, medde nhw, er fod ’na bobol yn gweud na fydd e byth yr un peth nawr, fod yr enaid wedi mynd o’r lle. Dim ond y bobol sy’ ddim yn mynd i fyw ’na sy’n gweud pethe fel ’na. Hen bobol sy’n meddwl fod ryw nostalgia mewn byw mewn dymp.
gan
Manon Steffan Ros