Rhiannon Michael fu’n gwrando ar wleidyddion yn ceisio osgoi ateb cwestiynau anodd…
Bwrw nol pob cwestiwn ar ad-drefnu addysg Caerdydd wnaeth y Cwnsler Cyffredinol yn sesiwn holi’r cyfryngau bore ma. John Griffiths gafodd y fraint o wynebu’r wasg a’r cwestiynau am ddoethineb penderfyniad y Prif Weinidog i wrthod cynlluniau Cyngor Caerdydd i leihau nifer y llefydd gwag yn y brifddinas. Yr un oedd yr ateb, beth bynnag y cwestiwn -mae’r llythyr gan y Prif Weinidog yn egluro’i benderfyniad yn gwneud yn union hynny ac felly’n siarad drosto’i hun. Ond roedd y penderfyniad ar ran y Llywodraeth gyfan -“collective responsibility.” Dim cyfle i Weinidogion Plaid Cymru osgoi bai felly.
Roedd ychydig bach o dodgems gan Nick Bourne heddiw hefyd. Doedd dim mwy o eglurhad dros pam bod Pwyllgor Rheoli’r Ceidwadwyr wedi mynnu bod Alun Cairns yn aros yn ei swydd fel AC er ei fod yn siomedig am y penderfyniad meddai Bourne. Ond peidiwch a phoeni, drigolion Gorllewin De Cymru, dyw’r ffaith na fydd e’n derbyn ei gyflog fel AC ddim yn golygu na fydd e’n gweithio’n galed er eich lles. Mae’n cadw ei swyddfa ac yn parhau a’i gymhorthfeydd. Ffiwff!
Newyddion bach difyr gan y Ceidwadwyr -maen nhw am wella cynrychiolaeth menywod yn y blaid. Angela Burns yw’r unig ferch ar feinciau’r Toris ond ddim am lawer hirrach efallai. Bydd llefydd gwag newydd ar y rhestrau rhanbarthol yn mynd i fenyw, a’r blaid yn y seddi targed yn dewis ymgeiswyr i’w cynrychioli o restr gyfartal o ddetholion -dwy fenyw a dau ddyn. Bydd hi’n hawdd gweld pa seddi sy’n dargedau i’r Ceidwadwyr pan fydd y rhestrau’n gyhoeddus felly!
Plaid sydd ddim yn gorfod poeni am restrau arbennig i sicrhau cynrychiolaeth deg o fenywod yw’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mike German, y cyn-arweinydd, gymerodd eu cynhadledd i’r wasg wythnosol nhw heddiw a phan fydd e’n troi’n Arglwydd German fe fydd ei wraig Veronica yn cymeryd ei le yn y Cynulliad, gan wneud Peter Black yr unig gynrychiolydd gwrywaidd yng nghornel felen Bae Caerdydd. Roedd Mike yno i ofyn i Jane Davidson i beidio a gwario bron i hanner miliwn o bunnau ar gyhoeddusrwydd i’r dreth ar fagiau plastig ond cylchdroi o amgylch ei swydd newydd wnaeth y drafodaeth. Mae’n gobeithio gadael ar 29 Mehefin. Fydd dim teitl ffansi ganddo, am nad oes neb arall a’i gyfenw fe wedi cyrraedd Ty’r Arglwyddi o’r blaen. “Mae’r lle’n llawn almaenwyr!” meddai un hac. Ha ha.