Mae Morgannwg wedi cyhoeddi mai’r un garfan 14 dyn gurodd Swydd Caerloyw yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth 20 pelawd fydd yn wynebu Swydd Hampshire yn Stadiwm SWALEC heno.
Dyma fydd y tro cyntaf i’r ddau dîm wynebu ei gilydd mewn gêm 20 pelawd. Fe gyrhaeddodd Hampshire rownd yr wyth olaf tymor diwethaf cyn colli i Northants o 13 rhediad.
Mae’r Dreigiau wedi cynnwys Shaun Tait yn y garfan unwaith eto ar ôl iddo gipio wiced yn ei gêm gyntaf yr wythnos diwethaf.
Ni fydd bowliwr Hampshire, Simon Jones yn cael cyfle i wynebu ei gyn glwb oherwydd ei fod wedi’i anafu. Bydd Dimitri Mascarenhas a Kabir Ali hefyd yn absennol i’r ymwelwyr.
Carfan Morgannwg
Jim Allenby, Mark Cosgrove, Jamie Dalrymple , Tom Maynard, Ben Wright, Gareth Rees, David Brown, Mark Wallace, James Harris, Dean Cosker, Robert Croft, Shaun Tait, David Harrison, William Owen.