Fe basiodd wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am flwyddyn arall, ond bydd yr atgofion o haul a bwrlwm yn parhau’n hir i’r rhai a fu yn Llanerchaeron yr wythnos diwethaf.
Un a fu’n gweithio’n galed ymlaen llaw, ac ar y maes yw Swyddog Datblygu yr Urdd yng Ngheredigion, Anwen Eleri. Hi sy’n crynhoi ei theimladau am yr wythnos a fu…
Wedi wythnos wych a blynyddoedd o baratoi, mae’r Steddfod yng Ngheredigion wedi mynd a’n gadael ni. Rydym fel staff, gwirfoddolwyr ac aelodau’r mudiad ar goll heb y bwrlwm o baratoadau, heb ymarferion diri, heb gystadlaethau, heb y rhedeg o gwmpas o un peth i’r llall fel ffŵl dwl, heb yr holl goch, gwyn a gwyrdd o’n cwmpas, ac wrth gwrs heb yr haul tanbaid!
Fe fydd sawl peth yn aros yn y cof – y sioeau, yr oedfa, y cystadlu, yr enillwyr lleol, y bwrlwm a’r gefnogaeth. Y môr o goch, gwyn a gwyrdd a’r hyd y sir a sut y daeth Ceredigion gyfan at ei gilydd i greu gŵyl lwyddiannus iawn yn Llanerchaeron – diolch i bawb.
Hoffwn ar ran Staff yr Urdd yn lleol a Phwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Ceredigion 2010, ddiolch o galon i bawb am eu cymorth a’u cefnogaeth yn ystod yr wythnos a’r blynyddoedd cyn hynny wrth baratoi. Roedd yn wythnos ffantastig a chofiadwy iawn, a diolch i bawb fu’n rhan o’r broses ac a gyfrannodd mewn unrhyw fodd tuag at ei llwyddiant – diolch enfawr i bawb.
Ma’r gwaddol o frwdfrydedd a chefnogaeth i’r Urdd yn parhau o hyd ac rwyf yn hynod falch o’r cyfle i weithio i fudiad sydd yn cynnig cymaint o brofiadau a chyfleoedd i’n haelodau. Yn sicr bydd Steddfod Ceredigion yn un i’w chofio i’n haelodau.
Gobeithio i bawb joio da’r Cardis!