Mae gŵr busnes lleol o Borthmadog wedi cynnig gwobr o £5,000 am wybodaeth ynglŷn â llofruddiaeth Ffion Wyn Roberts.

Mae’r wobr yn cael ei gynnig drwy Heddlu Gogledd Cymru, am wybodaeth a fyddai’n arwain at arestio, cyhuddo a chael pwy bynnag oedd yn gyfrifol yn euog.

Yn ôl y Ditectif Uwch-Arolygydd Peter Chalinor, gallai’r wobr fod yn ffordd o annog rhai sydd â gwybodaeth bellach am y llofruddiaeth i fynd at yr heddlu.

Gwybodaeth

Dyw’r gŵr busnes sydd yn cynnig y wobr ddim am roi ei enw.

Daw ei gynnig wythnos ar ôl i Heddlu Gogledd Cymru apelio eto am wybodaeth ynglŷn â llofruddiaeth y ferch 22 oed ym Mhorthmadog ym mis Ebrill.

Roedd yr heddlu wedi cyhoeddi lluniau o ddillad a gafodd eu darganfod yn dilyn y digwyddiad, ac maen nhw wedi dweud eu bod yn ymchwilio i’r ymateb ddaeth yn sgil hyn.

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar y rhif 01745 538 499.