Mae Aelodau Cynulliad wrthi’n trafod creu deddf newydd fyddai’n helpu’r rhai sydd yn gofalu am eraill.

Pnawn ma, mae nhw’n trafod argymhellion y pwyllgor trawsbleidiol ffurfiwyd i edrych ar sut i helpu gofalwyr yng Nghymru.

Cyhoeddodd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5 ei adroddiad ar Fesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010 y mis diwethaf.

Yn yr adroddiad, cytunodd yr Aelodau ar y mesur arfaethedig a fyddai, o bryd i’w gilydd, yn gorfodi cynghorau lleol, y Gwasanaeth Iechyd a chyrff eraill yng Nghymru i ddarparu cyngor ar y cyd am wasanaethau i’r miloedd o ofalwyr yng Nghymru.

Er ei fod yn cefnogi amcanion y Mesur arfaethedig, roedd y Pwyllgor yn awyddus i sefydliadau addysg gael eu cynnwys o’r cychwyn cyntaf er mwyn i ofalwyr ifanc gael cymorth hefyd.

“Yn benodol, teimlai’r Pwyllgor nad oedd gofalwyr ifanc yn cael y cyngor roedd ei wir angen arnynt,“ meddai Mark Isherwood AC, Cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 5.

“Mae angen ystyried gwasanaethau addysg o’r dechrau un,” ychwanegodd.