Dwy flynedd o “hel syniadau a gwerthuso” sydd o flaen Cyfeillion Patagonia cyn mynd ati i “sefydlu pwyllgor gweithredol ar gyfer dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r wladfa,” meddai Cadeirydd newydd Cyfeillion Patagonia wrth Golwg360 heddiw.

Yn ôl y cadeirydd newydd Dafydd Wigley, fe fydd Cyfeillion Patagonia’n mynd ati i “ddechrau edrych i mewn i bosibiliadau dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa yn 2015.”

Dyw’r pwyllgor ddim wedi cyfarfod eto ond maen nhw’n debygol o gyfarfod ymhen pythefnos gan adrodd yn ôl yn Eisteddfod Glyn Ebwy.

Dathliad 1965

Dafydd Wigley oedd yr aelod ieuengaf yn nathliadau’r canmlwyddiant yn 1965 ac roedd yn dathliad hwnnw yn hynod bwysig, meddai, gan ei fod wedi dod â’r Wladfa i sylw Cymru.

“Os fydd dathliad 2015 yn unrhyw beth tebyg i un 1965, mi fyddwn ni wedi cyflawni llawer,” meddai.