Mae crocodeiliaid yn syrffio’r moroedd er mwyn croesi milltiroedd o fôr agored yn ôl gwyddonwyr heddiw.

Mae’r darganfyddiad diweddaraf hwn yn egluro sut mae’r ‘crocodeil estuarine’ – un o’r crocodeiliaid ffyrnicaf wedi teithio ar draws nifer o ynysoedd yn ne’r Môr Tawel. Mae hefyd yn egluro sut a pham y mae llawer o grocodeiliaid mawr wedi cael eu gweld yn y môr agored.

Mewn afonydd a chorsydd y mae’r crocodeil i’w weld yn bennaf. Mae gwyddonwyr wedi bod yn ceisio deall sut y maen nhw’n cael eu gweld yn y môr agored – pan nad ydyn nhw’n gallu nofio’n dda iawn.

Yn gwyddonwyr mae crocodeiliaid yn “syrffio’r moroedd.”

Tagio

Fe wnaeth gwyddonwyr yn Awstralia dagio 27 o grocodeiliaid a oedd yn oedolion a thracio’u symudiadau dros gyfnod o flwyddyn.

Fe wnaeth gwyddonwyr ddarganfod fod crocodeiliaid gwrywaidd a benywaidd yn mynd ar deithiau hir – gan deithio mwy na 50kilometr (31 milltir) ar y tro o afonydd i ganol y môr agored.

Fe wnaeth un oedolyn 12.5 troedfedd deithio 590 kilometr (367 milltir) mewn 20 diwrnod. Maen nhw’n defnyddio ceryntau môr cyflym i gyrraedd gwahanol fannau.

Fe wnaeth crocodeil arall oedd dros 16 throedfedd o hyd – deithio dros 411kilometr (255 milltir) mewn 20 diwrnod.

“Mae’r crocodeiliaid hyn yn nofwyr gwael ac mae’n annhebygol eu bod nhw’n nofio ar draws y môr. Ond, maen nhw’n gallu para’n fyw am gyfnodau hir mewn dŵr halen heb yfed a bwyta. Felly drwy deithio pan mae ceryntau’n ffafriol – maen nhw’n gallu teithio’n bell,” meddai Dr. Hamish Campbell o Brifysgol Queensland.