Mae Ysgrifennydd Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, wedi annog Llywodraeth Prydain i ailystyried eu penderfyniad i atal cynllun i ddatblygu newyddion yn yr iaith Saesneg yng Nghymru.
Roedd yn ymateb ar ôl i’r Ysgrifennydd dros Ddiwydiant, Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Hunt, ddweud heddiw ei bod yn “amhriodol” gwario “arian cyhoeddus prin yn cynnal gwasanaethau newyddion rhanbarthol.”
Ond yn ôl Alun Ffred Jones, dylai’r gwasanaeth newyddion ar sianel tri gael ei ystyried fel un cenedlaethol, nid un rhanbarthol.
Dylai sianel tri fod yn “wasanaeth hanfodol , democrataidd , cenedlaethol” ar gyfer pobol Cymru, meddai.
Roedd consortiwm Wales Live wedi ennill y tendr i gynhyrchu rhaglen beilot Saesneg, wrth i ITN roi’r gorau i ddarparu newyddion rhanbarthol.
Bydd yr arian oedd ar gyfer y cynllun peilot nawr yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu cysylltiadau band eang cyflym meddai Jeremy Hunt.