Mae Gwyn Jenkins wedi ysgrifennu’r canllaw hanfodol i’r Cwpan y Byd yn Ne Affrica fis nesaf, sydd ar gael i’w brynu o wefan y Lolfa.
Maer capten yr Almaen, Michael Ballack, wedi ei anafu ac mae nifer yn dweud nad ydi’r tîm yma cystal hebddo. Ond mae’r Almaen yn hen lawiau ar fynd yn bell yng Nghwpan y Byd, gyda thîm cryf ai peidio.
Y Wlad
Poblogaeth: 82 miliwn
Prif iaith: Almaeneg
Prifddinas: Berlin
Arweinydd: Y Canghellor Angela Merkel
Llysenw: Die Mannschaft (y tîm)
Yr Hyfforddwr
Joachim Löw:
Wedi cyfnod fel is-hyfforddwr yr Almaen, dyrchafwyd Löw yn brif hyfforddwr yn 2006 ar ôl ymddiswyddiad Jurgen Klinsmann. Yn feistr ar dactegau, llwyddodd hyd yn hyn i greu tîm trefnus os nad ysbrydoledig. Arweiniodd yr Almaen i rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop yn 2008 ac o dan ei ofal bydd yr Almaen ymhlith y ffefrynnau i gipio Cwpan y Byd yn 2010.
Y Daith
Cafodd yr Almaen fawr o drafferth i ennill grŵp 4 gan guro Cymru, a’i prif wrthwynebwyr, Rwsia, ddwywaith. Dim ond y Ffindir roddodd fraw i’r Almaenwyr ac roedd angen i Klose sgorio hatric yn Helsinki i ddiogelu pwynt i’r Almaen.
Y Record
Cyn ail uniad Dwyrain a Gorllewin yr Almaen yn 1990, roedd Gorllewin yr Almaen wedi codi Cwpan y Byd deirgwaith (1954, 1974, 1990) gan hefyd golli yn y rownd derfynol ddwywaith (1966, 1986). Enillwyd y Gwpan yn gwbl annisgwyl yn 1954, pan gurwyd tîm mwyaf disglair y cyfnod, Hwngari, ac ailadroddwyd y gamp yn 1974 ym Munich pan faeddwyd tîm hynod dalentog yr Iseldiroedd. Wedi colli i’r Ariannin yn 1986, talwyd y pwyth yn ôl yn 1990 gyda buddugoliaeth yn un o’r gemau Cwpan y Byd mwyaf diflas erioed. Prin oedd y llwyddiant i dîm Dwyrain yr Almaen yn y gystadleuaeth, er y cafwyd un fuddugoliaeth nodedig yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn 1974. Wedi’r ail uniad, llwyddodd yr Almaen i gyrraedd y rownd derfynol yn 2002, cyn colli i Brasil.
Sêr o’r Gorffennol
Gerd Müller: sgoriodd Bomber de nation (Bomiwr y genedl) 68 gôl mewn 62 gêm i Orllewin yr Almaen. Yn eu plith oedd dwy gôl yn rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop yn 1972 a’r gôl a sicrhaodd y fuddugoliaeth yn rownd derfynol Cwpan y Byd yn 1974.
Frans Beckenbauer: Gyda 103 o gapiau, roedd y ‘libero’ (cefnwr rhydd) yn enwog am ei chwarae gosgeiddig sgilgar. Ef oedd capten y tîm a enillodd y Gwpan yn 1974, gan hefyd hyfforddi Gorllewin yr Almaen i fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd 1990.
Jürgen Sparwasser: er iddo ennill 49 cap dros Ddwyrain yr Almaen, cofir ef yn bennaf am rwydo un gôl hanesyddol yn 1974, sef yr unig gôl yn yr unig gêm a chwaraewyd rhwng Dwyrain yr Almaen a Gorllewin yr Almaen.
Jürgen Klinsmann: sgoriodd Klinsmann 47 gôl dros ei wlad rhwng 1987 a 1998 ac ef oedd rheolwr yr Almaen yng Nghwpan y Byd 2006. Roedd yn arwr i gefnogwyr Bayern Munich a Tottenham Hotspur er ei fod yn enwog hefyd am geisio twyllo dyfarnwyr drwy ddeifio yn y cwrt cosbi.
Gwyliwch Rhain
Philipp Lahm: mae cefnwr chwith Bayern Munich ar ei orau yn ymosod ac er bod rhai sylwebwyr yn amau ei alluoedd amddiffynnol, bu’n ddewis cyntaf i’r Almaen ers iddo ennill ei gap cyntaf yn 2004. Chwaraeodd ym mhob un o gemau’r Almaen yn y rowndiau rhagbrofol.
Y Seren
Klose yw’r unig chwaraewr yn hanes Cwpan y Byd i sgorio pump neu fwy o goliau mewn dwy gystadleuaeth Cwpan y Byd yn olynol, a bydd yn disgwyl ychwanegu at ei record yn 2010. Yn enedigol o Wlad Pwyl, penderfynodd gynrychioli ei wlad fabwysiedig yn 2001. Yn 2007 cafodd y fraint o fod yn gapten ar yr Almaen am y tro cyntaf yn y gêm yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd, gan ddathlu drwy sgorio dwy gôl.