Mae gweision sifil yn Sbaen wedi mynd ar streic gan orymdeithio yn Madrid heddiw, ar ôl i’w cyflogau gael eu gostwng yn sgil dyled anferth y wlad.

Galwyd y streic ar ôl i’r Prif Weinidog, Jose Luis Rodriguez Zapatero, orchymyn y dylai gweithwyr sifil dderbyn 5% yn llai o gyflog ar gyfartaledd o’r mis yma ‘mlaen.

Daw’r gorchymyn fel rhan o gynllun y Llywodraeth i arbed €15 biliwn mewn gwariant cyhoeddus eleni a flwyddyn nesaf, er mwyn ceisio osgoi argyfwng dyled fel un Gwlad Groeg.

Mae’r wlad dan bwysau cynyddol gan yr Undeb Ewropeaidd, sefydliad ariannol rhyngwladol yr IMF, yr Unol Daleithiau, yn ogystal â’r marchnadoedd arian i gymryd camau breision i wella’r sefyllfa.

Ond gall y Llywodraeth wynebu rhagor o streiciau os yw undebau yn teimlo bod y toriadau yn ormod.

Yn ôl adroddiadau, un o amcanion y streic heddiw oedd mesur maint y gwrthwynebiad sydd yna yn erbyn y toriadau.

Yn ôl undebau, mae rhwng 75-80% o’r gweithwyr a alwyd i streicio wedi gwneud hynny, ond yn ôl ffigurau gan y Llywodraeth, roedd y cyfanswm yn dipyn llai.

Llun: Protestwyr (PA Photo/Victor R. Caivano)