Fe fydd criw caban teithiau awyr BA yn cynnal yr olaf yn eu cyfres o streiciau yfory.
Mae undeb Unite wedi bod yn dweud y byddan nhw’n cynnal rhagor o streiciau dros yr haf os nad yw cwmni hedfan BA yn dod i gyfaddawd er mwyn datrys yr anghydfod.
Yn ôl Undeb Unite, fe fydd y streiciau wedi costio tua £154 miliwn i’r cwmni hedfan erbyn diwedd yfory.
Mae BA yn parhau i ddatgan heddiw fod eu gwasanaethau wedi bod yn cael eu cynnal yn ystod y pum niwrnod diwethaf ac yn dweud bod “mwy o griw wedi dod i’r gwaith.”
Ofn
Mae nifer o weithwyr BA sydd ar streic ar hyn o bryd wedi dweud wrth Aelodau Seneddol heddiw fod “awyrgylch o ofn” yn y cwmni.
Yn ôl Undeb Unite, mae tua 60 o aelodau caban wedi’u gwahardd o’u gwaith dros dro ac wyth wedi’u diswyddo yn ystod yr wythnosau diwethaf am resymau dibwys.
Mae BA wedi gwadu’r cyhuddiadau hyn gan ddweud eu bod nhw’n dilyn côd disgyblaeth y cwmni.