Fe allai Radio Ceredigion droi at ddarlledu yn Saesneg yn unig o fewn blwyddyn pe bai’r perchnogion yn penderfynu eu bod nhw am newid natur yr orsaf.
Yn ôl Cyfarwyddwr OFCOM yng Nghymru, Rhodri Williams, fe fyddai modd i’r perchnogion newid fformat yr orsaf radio ar ôl blwyddyn, pe baen nhw’n awyddus i wneud hynny.
Fe allai hyn olygu newidiadau yn y math o raglenni a cherddoriaeth sy’n cael ei ddarlledu a hefyd yr iaith mae’r orsaf yn ei ddefnyddio.
Un posibilrwydd yw newid yr orsaf i un sy’n darlledu’n gwbl uniaith Saesneg.
Ond fe ddywedodd Rhodri Williams y byddai unrhyw gais am newid fformat yr orsaf yn mynd i ymgynghoriad cyhoeddus yn y lle cyntaf, cyn i unrhyw benderfyniadau cael ei wneud.
Pryder
Mae nifer o wrandawyr Radio Ceredigion eisoes wedi nodi eu pryderon ynglŷn â dyfodol yr orsaf, gan gredu bod y Gymraeg yn cael ei hesgeuluso gan Town and Country Broadcasting- y cwmni sydd wedi derbyn y drwydded i ddarlledu.
Maen nhw wedi galw ar OFCOM i gadw llygaid ar yr orsaf radio i sicrhau bod Town and Country Broadcasting yn cadw at dermau’r drwydded bresennol.
Asesu
Fe ddywedodd Rhodri Williams bod OFCOM yn y broses o asesu’r orsaf ac fe fydd yn cymryd rhai wythnosau eto cyn iddynt ddod i unrhyw gasgliadau.
O ran termau’r drwydded ar gyfer dwyieithrwydd yr orsaf, fe ddywedodd Cyfarwyddwr OFCOM yng Nghymru nad yw geiriad y drwydded wedi newid, sef bod y darlledu yn cael ei rannu’n weddol gyfartal rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.
“Fe fyddwn ni’n gwrando ar y darlledu yn ei gyfanrwydd ac fe fydd angen i ni asesu a ydynt yn cyrraedd yr hyn sydd i’w ddisgwyl ohonynt yn ôl y drwydded,” meddai Rhodri Williams.
Dywedodd Rhodri Williams bod OFCOM wedi derbyn cwynion gan wrandawyr ers i’r darlledu cychwyn o dan reolaeth Town and Country Broadcasting.
Ymateb Cyfeillion Radio Ceredigion
“Rwy’n ymwybodol y gallai pethau newid dros y misoedd nesaf, ond mae ‘na ddyletswydd gyfreithiol ar Town and Country Broadcasting i gadw at y drwydded,” meddai Geraint Davies, Cadeirydd Cyfeillion Radio Ceredigion.
“Mae’n rhaid iddynt gadw at y ddarpariaeth hanner a hanner yn y Gymraeg a’r Saesneg, a hynny yn ystod oriau brig”
“Mae’r arwyddion yn dangos mae eu bwriad yw cael radio uniaith Saesneg”
“Ond yn dilyn yr ymateb oedd yn ystod yr Eisteddfod yr wythnos diwethaf, fe fyddai’r perchnogion yn ffôl i hepgor rhaglenni Cymraeg,” ychwanegodd Geraint Davies.
Mae rhwng 300-400 o enwau ychwanegol wedi cael eu hanfon at OFCOM ar ben y 2,000 sydd eisoes wedi arwyddo’r ddeiseb.
Bydd Cyfeillion Radio Ceredigion yn cynnal cyfarfod ar 17 Mehefin i drafod camau nesaf eu hymgyrch.