Mae’r Gweilch wedi cael grŵp digon anodd ar gyfer cystadleuaeth Cwpan Heineken y tymor nesaf wrth iddynt orfod wynebu Munster, Gwyddelod Llundain a Toulon.

Mae Munster wedi ennill y gystadleuaeth yn 2006 a 2008, ac mae gan Toulon gefnogaeth ariannol enfawr sy’n golygu eu bod nhw’n gallu denu chwaraewyr dylanwadol i’r clwb.

Fe fydd gan y Dreigiau dasg anodd hefyd wrth iddyn nhw gael eu rhoi yn yr un grŵp â phencampwyr Ewrop, Toulouse yn ogystal â Wasps a Glasgow.

Mae’r Scarlets yn yr un grŵp â Chaerlŷr, Perpignan a Benetton Treviso, a fydd eto’n dasg anodd i dîm ifanc Nigel Davies.

Y Gleision sydd wedi cael y grŵp gorau ymysg y rhanbarthau Cymreig gyda Northampton, Caeredin a chlwb Ffrengig, Castres Olympique.

Bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ym mis Hydref gyda’r rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Mai.

Grwpiau Cwpan Heineken

Grŵp 1: Gleision, Northampton, Caeredin, Castres Olympique.
Grŵp 2: Leinster, Clermont Auvergne, Saracens, Racing Metro 92.
Grŵp 3: Munster, Gweilch, Gwyddelod Llundain, Toulon.
Grŵp 4: Biarritz, Caerfaddon, Ulster, Aironi.
Grŵp 5: Caerlŷr, Scarlets, Perpignan, Benetton Treviso.
Grŵp 6: Toulouse, Wasps, Glasgow, Dreigiau.