Yr economi yw’r prif fater dan sylw yn y drafodaeth rhwng Prif Weinidog Prydain David Cameron, ac arweinwyr y seneddau datganoledig heddiw.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog , Nick Clegg yn mynychu’r trafodaethau yn Stryd Downing hefyd ynghyd ag Alex Salmond ( Yr Alban), Peter Robinson ( Gogledd Iwerddon) a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru.
David Cameron fydd yn cadeirio’r sesiwn llawn cyntaf o drafodaethau gydag arweinwyr gwledydd Prydain.
“Mae’r Prif Weinidog yn ystyried fod hyn yn rhan bwysig o’r berthynas newydd o barch rhwng Llywodraeth Prydain a’r seneddau datganoledig,” meddai llefarydd ar ran Stryd Downing.