Mae’r olaf o’r criw oedd yn rhan o’r cynllun a gafodd ei bortreadu yn y ffilm glasur, The Great Escape, wedi marw yn 97 oed.

Credir mai Jack Harrison oedd yr unig un oedd ar ôl o’r criw wnaeth geisio dianc o wersyll carcharorion Stalag Luft III yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ôl y stori, yr oedd y peilot RAF yn aros i fynd lawr y twnnel i ddianc pan wnaeth yr Almaenwyr ddarganfod y cynllun.

Brysiodd i losgi ei ddogfennau ffug cyn newid i’w ddillad carchar.

Llwyddodd 76 o garcharorion i dorri allan o’r gwersyll ym mis Mawrth 1944, ond dim ond tri wnaeth ddianc i ryddid.

Cafodd 50 o’r rhai a gafodd eu dal eu saethu’n farw.

Portreadwyd y digwyddiad yn y ffilm 1963, The Great Escape, oedd yn cynnwys actorion megis Steve McQueen, Charles Bronson, James Garner a Richard Attenborough.

Jack Harrison

Roedd Jack Harrison yn gweithio fel athro yn Dornoch Academy, Sutherland, yn dysgu Lladin a’r clasuron, cyn cael ei alw i’r RAF yn ystod y rhyfel.

Cafodd ei awyren ei saethu lawr yn 1942, ar ei daith gyntaf yn bomio llongau’r Almaen.

Ar ôl cael ei ddal, cafodd ei drosglwyddo i’r gwersyll oedd ar ffin Gwlad Pwyl.

Ceisio dianc

Ar noswaith 24 Mawrth, 1944, roedd tua 200 o garcharorion yn paratoi i ddianc drwy dwnnel ‘Harry’.

Roedd twneli ‘Tom’ a Dick’ eisoes wedi cael eu darganfod.

Roedd Jack Harrison yn rhif 98 ar y rhestr ddianc, ond darganfuwyd y twnnel wrth i rif 77 adael.

Llun: Jack Harrison (Gwifren PA)