Mae Tomi Morgan wedi cael ei benodi’n rheolwr Tim Pêl droed Caerfyrddin am yr ail dro ar ôl i Deryn Brace benderfynu ymddiswyddo.

Roedd Brace wedi bod wrth y llyw ers 2007 ond mae wedi rhoi’r gorau i’r swydd oherwydd ei fod yn teimlo bod angen wyneb newydd i sicrhau mwy o lwyddiant i’r clwb.

Cychwynnodd Tomi Morgan ei yrfa rheoli gydag Aberystwyth yn nhymor cyntaf yr Uwch Gynghrair, cyn treulio cyfnod gyda Rhaeadr.

Bu Tomi Morgan yn rheoli Caerfyrddin am chwe thymor cyn iddo gael ei ddiswyddo yn ystod tymor 2003 yn dilyn canlyniadau gwael.

Mae Morgan hefyd wedi treulio cyfnod gyda Penrhyncoch, lle helpodd y clwb i ennill dyrchafiad i’r Cymru Alliance.

Fe aeth ‘mlaen i reoli’r Trallwng am bedair blynedd cyn cael ei ddiswyddo. Fe gymerodd yr awenau gyda Phorthmadog ym mis Chwefror 2009 ond mae’r cyn ymosodwr wedi penderfynu dychwelyd i Barc Richmond unwaith eto.