Mae aelod o’r cyhoedd wedi disgrifio sut y gwnaeth ddilyn Derrick Bird ar ôl i’r gyrrwr tacsi ddechrau saethu at bobol yn Cumbria wythnos ddiwethaf.

Roedd Paul Goodwin wedi dilyn Derrick Bird yn ei gar, ac wedi gyrru heibio iddo gan chwifio a gweiddi ar bobol oedd yn cerdded ar y stryd i’w rhybuddio am y perygl.

“Dywedodd fy mam y gallwn i fod wedi cael fy lladd,” meddai’r gwr 48 oed.

“Wnes i jest ddim meddwl, roedd yn beth greddfol i wneud.”

Roedd hefyd wedi gweld gyrrwr tacsi arall – Terry Kennedy – yn cael ei saethu, meddai.

Anelu at yr heddlu

Mae wedi dod i’r amlwg hefyd fod heddlu wedi cael ei gorfodi i gadw draw oddi wrth Derrick Bird ar ôl iddo anelu dryll tuag atynt.

Mae Heddlu Cumbria wedi cadarnhau fod tri heddwas nad oedd yn cario drylliau, wedi dilyn y saethwr 52 oed, ond nad oedden nhw wedi cael cyfle i’w atal.

Heddwas cymunedol oedd y cyntaf i’w ddilyn ar ôl clywed saethu yn nhref Whitehaven.

Roedd wedi gyrru ar ôl Derrick Bird ar ôl meddiannu car ond rhoddodd y gorau iddi er mwyn cynorthwyo gyrrwr tacsi a’i deithiwr oedd wedi cael eu saethu.

Roedd dau heddwas arall oedd mewn fan wedi ei ddilyn hefyd, ond fe gawson nhw eu gorfodi i roi’r gorau iddi ar ôl i Derrick Bird stopio ag anelu dryll atynt.

‘Dim bai’

Ond mae arbenigwr tactegau heddlu wedi dweud bod yr heddweision wedi ymateb fel y byddai disgwyl iddyn nhw wneud.

Ni ddylid beio’r swyddogion meddai cyn bennaeth ymladd terfysgaeth Scotland Yard, Andy Hayman.

“Mi fyddai greddf wedi chwarae rhan yn hyn” meddai, “ond byddai eu hyfforddiant wedi ymyrryd a’u tynnu nôl.

Mae Dirprwy Prif Gwnstabl Heddlu Cumbria, Stuart Hyde wedi dweud y byddai unrhyw swyddog neu aelod staff wedi atal Derrick Bird petawn nhw wedi cael y cyfle.

Lladdodd Derrick Bird 12 o bobol ac anafu 11 cyn lladd ei hun.

Llun: Paul Goodwin (Gwifren PA)