Mae Singapore yn barod i wneud cais i estraddodi dyn Prydeinig am chwistrellu paent ar drên tanddaearol.

Mae llys yn y wlad wedi gosod gwarant i arestio Lloyd Dane Alexander am dorri mewn a fandaleiddio’r cerbyd trên tiwb ar 16 Mai.

Er ei fod wedi gadael y wlad bellach, mae’r heddlu wedi dweud eu bod yn barod i drefnu i’w orfodi i ddychwelyd.

Mae dyn arall hefyd yn cael ei gyhuddo o’r drosedd. Mae Oliver Fricker, 33, sy’n dod o’r Swistir, eisoes wedi ymddangos yn y llys, ac wedi ei ryddhau am y tro ar ôl gosod mechnïaeth o £49,000.

Does dim mwy o wybodaeth wedi cael ei gyhoeddi am Lloyd Dane Alexander, a does dim gwybodaeth bendant ynglŷn â lle mae’n debygol o fod ar hyn o bryd.

Ond mae papur newydd The Straits Times wedi awgrymu ei fod wedi dianc i Hong Kong.

Cosbi’n llym

Mae gan Singapore enw am osod cosbau llym ar gyfer man droseddu. Gall pobol sy’n fandaleiddio wynebu dirwy o £975 neu hyd at dair blynedd yn y carchar, ynghyd â chael eu chwipio gan gansen rhwng tri ac wyth o weithiau.

Cafodd bachgen yn ei arddegau o’r Unol Daleithiau ei chwipio am iddo fandaleiddio yn 1994.

Llun: Singapore (Williamcho)