Mae Barack Obama wedi bod yn amddiffyn ei rôl wrth geisio delio gyda thrychineb olew Gwlff Mecsico.

Roedd Arlywydd yr Unol Daleithiau’n mynnu ei fod wedi trafod gyda physgotwyr lleol a chwmni olew BP fel ei gilydd er mwyn ceisio datrys yr argyfwng.

Roedd eisiau gwybod pwy oedd yn haeddu cic yn ei din, meddai Obama ar raglen deledu gydag NBC.

Mae wedi dweud y bydd rhaid i BP dalu am gostau’r trychineb a ddechreuodd ar 20 Ebrill ac sydd wedi gweld degau o filiynau o alwyni olew yn gollwng i’r môr.

Neithiwr, roedd yn honni y byddai’r ardal yn “dod yn ôl yn gryfach nag erioed”.

Peth llwyddiant

Fe ddaeth rhywfaint o newyddion da ynglŷn ag atal yr olew – mae twmffat neu dwndish sydd wedi ei roi tros y ffynnon olew ar wely’r môr wedi llwyddo i atal peth ohono rhag gollwng.

Ond fe fydd deufis arall cyn y bydd torri ffynhonnau newydd yn atal y llif yn llwyr ac fe fydd yn cymryd blynyddoedd i adfer yr amgylchedd.

Llun: Barack Obama ar un o’i dri ymweliad ag ardal y Gwlff (AP Photo)