Mae deuddeg o filwyr NATO, gan gynnwys saith o’r Unol Daleithiau, wedi marw mewn cyfres o ymosodiadau yn Afghanistan.
Dyma’r diwrnod mwya’ gwaedlyd i luoedd y Gorllewin yno eleni wrth iddyn nhwthau baratoi am gyrch mawr yn nhalaith Kandahar, un o gadarnleoedd gwrthryfelwyr y Taliban.
Mae swyddogion NATO’n rhybuddio y bydd mwy fyth o farwolaethau yn ystod yr ymladd bryd hynny.
Mae contractwr o’r Unol Daleithiau sy’n hyfforddi heddlu Afghanistan hefyd wedi marw ond doedd yr un o’r milwyr yn dod o wledydd Prydain.
Y manylion
Fe ddigwyddodd bron hanner y marwolaethau – pum Americanwr – mewn ffrwydrad yn nwyrain Afghanistan.
Fe gafodd dau filwr arall eu lladd mewn ymosodiadau ar wahân yn y de, un gan fom a’r llall wedi cael ei saethu.
Mae NATO wedi dweud fod tri milwr arall wedi’u lladd mewn ymosodiadau yn y dwyrain a’r de ond dydyn nhw ddim wedi rhoi manylion pellach.
Milwyr o Awstralia oedd y ddau arall – fe gawson nhw eu lladd ddoe gan ddyfais yn y De, yn nhalaith Uruzgan.
Llun llyfrgell: Milwyr yn Afghanistan (AP Photo)