Mae effeithiau’r toriadau gwario eisoes yn effeithio ar bobol fregus, meddai undebau llafur y TUC ac mae cwmni cyflogaeth yn rhybuddio bod angen i’r sector cyhoeddus newid ei ffordd o weithio.
Yn ôl grŵp Manpower, mae’r adferiad economaidd yn digwydd heb swyddi ac fe fydd rhaid i adrannau llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill ddechrau dilyn esiampl busnesau preifat.
Fe fyddai hynny, medden nhw, yn golygu rhagor o weithio hyblyg, symud pobol o swydd i swydd a chael rhagor o weithwyr tros dro.
Roedd y cwmni wedi cynnal arolwg o 2,100 a’r rhai mwya’ hyderus oedd y rhai ym maes gwasanaethau arian a busnes.
Dioddefaint, meddai’r TUC
Yn y cyfamser, mae’r TUC’n dweud bod y toriadau gwario eisoes yn effeithio ar y bobol sydd mewn mwya’ o angen – y di-waith, plant ac oedolion gydag afiechydon tymor hir.
Roedd yr addewidion i gadw toriadau at ddileu gwastraff eisoes wedi methu, meddai Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau, Brendan Barber.
Maen nhw wedi sefydlu uned sy’n cadw llygad ar doriadau, gan honni bod gwasanaethau addysg a chynlluniau codi tai ymhlith y rhai sydd eisoes wedi mynd.
“Mae graddfa’r toriadau’n golygu y bydd yna ddioddef o ddifri’,” meddai Brendan Barber. “Fe ddylen nhw roi llawer mwy o bwyslais ar godi arian trwy drethi, yn arbennig ar yr arch-gyfoethogion sydd wedi gwneud cystal yn ystod blynyddoedd y ffyniant.”
Llun: Adeilad y TUC (Kaihsu Tai – Trwydded GNU)