Fe fydd y Trysorlys heddiw’n gofyn i bobol helpu i benderfynu ar flaenoriaethau gwario’r Llywodraeth a lle y dylen nhw dorri.
Y disgwyl yw y bydd y Canghellor, George Osborne, a’r Prif Ysgrifennydd newydd, Danny Alexander, yn cyhoeddi cyfres o ddogfennau yn awgrymu toriadau a holi barn.
Fe fydd dau bwyllgor newydd yn cael eu creu o fewn y Llywodraeth er mwyn gwthio’r syniadau yn eu blaen.
Newid natur llywodraeth
Mae’r Llywodraeth wedi pwysleisio bod y newidiadau sy’n digwydd ar hyn o bryd yn fwy na thoriadau gwario – maen nhw eisiau newid sut y mae gwledydd Prydain yn cael ei llywodraethu.
Fe fyddan nhw’n gofyn a oes eisiau i Lywodraeth ganol wneud cymaint ag ar hyn o bryd neu a oes modd i’r gwaith gael ei wneud gan eraill, gan gynnwys busnesau a mudiadau gwirfoddol.
Yn ôl arbenigwyr, fe arweiniodd strategaeth debyg yng Nghanada at doriadau mawr yn y sector cyhoeddus ac am godi arian am rai gwasanaethau ac adnoddau.
Mae’ Llafur a Phlaid Cymru eisoes wedi rhybuddio y bydd y toriadau’n effeithio’n annheg ar bobol dlawd a bregus.
Llun: George Osborne (Gwifren PA)