Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar gorff y drymiwr roc, Stuart Cable, yn ddiweddarach yr wythnos yma.
Mae rhai o sêr y byd roc ac elusennau wedi rhoi teyrngedau i’r perfformiwr 40 oed a gafwyd yn farw yn ei gartre’ yng Nghwm Cynon fore ddoe.
Y sylwadau sy’n cael mwya’ o sylw yw’r rhai gan ei gyd-aelod o fand y Stereophonics, Kelly Jones.
Fe soniodd y canwr fel yr oedd wedi tecstio Stuart Cable adeg ei ben-blwydd. Roedd y drymiwr wedi mynegi syndod o gyrraedd 40 a Kelly Jones wedi ateb, “Fyddi di fyw i fod yn gant, mêt!”
Roedd aelodau’r band Cymreig mawr arall, y Manic Street Preachers, a’r DJ Chris Moyles ymhlith eraill a fu’n sôn am gymeriad mawr Stuart Cable.
‘Rhywbeth addfwyn’
Fe ddaeth teyrnged hefyd gan elusennau Rhodd Cymru a Sefydliad Aren Cymru, sy’n ceisio annog pobol i roi eu horganau i eraill ar ôl marw.
Roedd Stuart Cable wedi cefnogi’r ymgyrch ers i ffrind iddo roi ei organau, gan achub bywyd un bachgen bach.
“Roedd Stuart yn ŵr bonheddig a oedd yn falch iawn o Gymru a’i gymuned,” meddai Cadeirydd yr elusennau, Roy J. Thomas. “Roedd yna rywbeth addfwyn iawn amdano.
“Roedd yn gymeriad unigryw a lwyddodd i gyffwrdd â chalonnau pobol mewn angen. Roedd cleifion yn hoff iawn ohono oherwydd ei agosatrwydd.”
Llun: Blodau wedi eu rhoi ar gar Chrysler 300 Stuart Cable y tu allan i’r dafarn lle bu’n yfed nos Sul (Gwifren PA)