Fe fydd plant a phobol ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle i nofio a defnyddio canolfannau hamdden am ddim ar benwythnosau.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn dod i gytundeb newydd gydag awdurdodau lleol er mwyn caniatáu iddyn nhw estyn y cynllun sydd wedi rhoi nofio am ddim yn ystod gwyliau ysgol i bobol dan 16 oed.
“Ers i’n menter Nofio am Ddim cael ei lansio yn 2004, mae wedi bod yn hynod boblogaidd ac mae degau o filoedd o bobl ifanc wedi bod i’r pwll i wneud ymarfer corff rheolaidd yn ystod gwyliau ysgol,” meddai’r Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones.
Mae’r drefn newydd yn golygu y bydd sesiynau am ddim ar benwythnos ond fe fydd llai o sesiynau yn ystod y gwyliau.
Mwy o sesiynau hyfforddi
Mae’r cytundeb newydd hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar sesiynau wedi eu trefnu gyda mwy o blant gyda’r bwriad o helpu i gyrraedd nod y Llywodraeth o sicrhau bod pob plentyn yn dysgu nofio cyn troi’n un ar ddeg.
Roedd ymchwil yn dangos bod sesiynau o’r fath yn helpu rhagor o blant i ddysgu nofio, yn ôl y Gweinidog.
“Yn ogystal â sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i feithrin y sgil pwysig hwn, bydd darparu’r sesiynau hyn ar benwythnosau yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc wneud ymarfer corff,” meddai.
Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru eisoes wedi dechrau cynnig y sesiynau newydd a’r disgwyl yw y bydd pob awdurdod yn eu cynnig erbyn mis Medi 2010.
Llun: Nofio – Pwll Abertawe (Llun y Cyngor)