Mae darn o draeth tair milltir o hyd yn ne Cymru wedi cael ei ethol yn draeth gorau gwledydd Prydain.

Fe lwyddodd Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr i guro rhai o’r traethau gwyliau mwya’ adnabyddus – roedd 24 o draethau o wyth rhanbarth ar y rhestr fer yng Nghystadleuaeth Traethau Prydeinig Gwych Cadbury Flake.

Fe gafodd y traeth Cymreig 47% o’r bleidlais o flaen Tresco ar Ynysoedd Scilly (19%) a Blackpool a Margate (10%) yn gydradd drydydd.

Y traeth

Mae traeth Rhosili ar orllewin Penrhyn Gŵyr, yr ardal gynta’ yng ngwledydd Prydain i gael ei dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn 1956.

Mae’r ardal yn boblogaidd iawn gyda syrffwyr, ac mae yna weddillion llongau i’w gweld pan fydd y llanw allan, gan gynnwys yr Helvetia a suddodd yn 1887.

Fe gafodd Bae Oxwich yn Abertawe ynghyd â thraeth Barafundle yn Sir Benfro eu cynnwys ar y rhestr fer hefyd.

“Mae’r golygfeydd yn Rhosili ymysg y gorau yn y byd,” meddai Maer Abertawe, Richard Lewis.