Mae’r Aelod Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans, wedi cael ei dewis yn Llywydd newydd Plaid Cymru – y wraig gynta’ i ddal y swydd.

Mae’n dilyn yn ôl traed Dafydd Iwan ac fe gafodd ei dewis yn ddiwrthwynebiad ond fydd hi ddim yn dechrau yn y swydd tan fis Medi.

Fe ddywedodd Jill Evans bod yn amser “cyffrous iawn” o flaen Plaid Cymru a’r wlad, Wrth i’r blaid fynd yn fwy proffesiynol, ei rôl, meddai, fyddai cryfhau’r ddolen rhwng aelodau ar lawr gwlad, yr arweinyddiaeth a staff.

‘Dolen hanfodol’

“Wrth i’r Blaid esblygu’n blaid lywodraeth radical, mae’r ddolen yma’n hanfodol er mwyn i ni dyfu a chyrraedd ein hamcanion,” meddai.

Jill Evans hefyd yw’r llywydd cynta’ i ddod o Gymoedd y De – fe gafodd ei magu yn y Rhondda ac mae’n parhau i fyw yno.

Fe ddaeth i’r amlwg i ddechrau yn gynghorydd yn yr ardal ac fe ddaeth yn Aelod Seneddol Ewropeaidd yn 1999. Fe fu’n Gadeirydd y Blaid rhwng 1994 ac 1996.

Mae wedi cymryd diddordeb arbennig ym Mhalesteina ac wedi ymweld â’r ardal fwy nag unwaith.