Roedd yna embaras i’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi iddo wneud camgymeriad yn y Senedd ac awgrymu y byddai’r Llywodraeth yno yn cefnogi pleidlais ‘Ie’ mewn refferendwm ar ddatganoli.

Erbyn i swyddogion y wasg yn Downing Street awgrymu mai camgymeriad oedd y sylw a wnaed yn Nhŷ’r Cyffredin, roedd un o ASau Plaid Cymru eisoes wedi croesawu’r newyddion.

Fe wnaeth Nick Clegg yn glir hefyd na fydd yna refferendwm tan y flwyddyn nesa’ a bod Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi bod yn cyfarfod heddiw.

Y nod, meddai, oedd trafod pryd yn gynnar yn 2011 y byddai modd cynnal y bleidlais.

Pryfocio

Mae’r syniad y byddai Llywodraeth Prydain yn mynegi barn mewn refferendwm yn mynd yn groes i ddatganiadau cyn hyn gan Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, a’i dirprwy, David Jones.

Fe allai hefyd arwain at gyhuddiadau bod Llundain yn ymyrryd ym materion Cymru, sy’n cryfhau’r ddamcaniaeth mai camgymeriad oedd hyn.

Ond fe aeth AS newydd Plaid Cymru, Jonathan Edwards, ati i gymryd mantais ar y dryswch i bryfocio’r Llywodraeth trwy groesawu’r newydd a gofyn a fydd AS Ceidwadol Mynwy, David Davies, bellach yn cael ei rwystro rhag arwain yr ymgyrch yn erbyn.

Pan ddaeth y gwadu o Downing Street, fe barhaodd i brocio, gan awgrymu bod Nick Clegg wedi cael ei roi yn ei le a bod y “Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi cael eu llyngu can y Ceidwadwyr”.