Mae arweinydd seneddol Plaid Cymru’n rhybuddio y bydd Cymru’n diodde’n waeth na’i siâr oherwydd toriadau gwario cyhoeddus y Llywodraeth yn Llundain.

Roedd y wlad yn cael ei throi’n ôl i’r 1980au, meddai Elfyn Llwyd, gan ddweud bod awydd y Llywodraeth i ddilyn esiampl Canada yn yr 1990au yn addo’n ddrwg iawn i Gymru.

Mae disgwyl toriadau mawr yn y Gyllideb frys ymhen pythefnos ac wedyn mewn arolwg gwario yn yr hydref.

Yno, yn ôl AS Dwyfor Meirionnydd, roedd ardaloedd ymhell o ganolfannau’r llywodraeth ganolog wedi diodde’n ofnadwy – yn Newfoundland er enghraifft roedd diwydiannau cyfan wedi cael eu dinistrio.

‘Dinistrio cymunedau’

“Mi gafodd degau o filoedd o bobol eu gwneud yn ddi-waith ac mi gafodd cymunedau eu dinistrio,” meddai. “O gofio agwedd Lundeinig y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol mae esiampl Canada’n awgrymu y bydd Cymru ar flaen y toriadau eto.”

Roedd yn ymateb i araith gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron, yn dweud bod y sefyllfa economaidd yn waeth na’r disgwyl.

“Rydan ni’n gwybod i sicrwydd rŵan bod y Prif Weinidog yn paratoi am un o’r Cyllidebau mwya’ ciaidd o fewn cof,” meddi. “Mi fydd hi’n waeth na chyllideb newyddion drwg – mi fydd yn ymosodiad ar y tlawd a’r bregus.”

• Fe alwodd Plaid Cymru hefyd am gynnwys taflegrau niwclear Trident yn yr arolwg amddiffyn, gan ddweud y byddai taflegrau newydd yn costio £100 miliwn tros 30 mlynedd.