Mae cyn ymosodwr y Rhyl, Matty Williams, wedi gadael y Belle Vue i ymuno gyda phencampwyr yr Uwch Gynghrair, y Seintiau Newydd.
Roedd Williams, sy’n gyn chwaraewr dan 21 i Gymru, yn brif sgoriwr y Rhyl y tymor diwethaf gyda 20 gôl ond fe benderfynodd adael ar ôl iddyn nhw fethu â chael trwydded i gadw’u lle yn yr Uwch Gynghrair newydd.
Fe sgoriodd y blaenwr 29 gôl mewn 57 ymddangosiad i’r clwb ers arwyddo o Burton Albion yn 2008.
Dechrau gyda Man Utd
Fe ddechreuodd Williams ei yrfa gyda Man Utd ond chafodd e erioed gyfle gyda’r tîm cyntaf ac fe ymunodd gyda Notts County ym mis Mawrth 2004.
Chwaraeodd wedyn i Tamworth cyn ymuno â Burton Albion ym mis Mawrth 2008. Enillodd ei gap cyntaf i dîm Cymru dan 21 yn erbyn Gwlad Pwyl.
Fe helpodd yr ymosodwr Y Rhyl i ennill y bencampwriaeth yn ei dymor cyntaf gyda’r clwb, ond ar ôl iddyn nhw orfod disgyn i’r Cymru Alliance, doedd e ddim yn awyddus i
chwarae ar y lefel honno.
Bydd Matty Williams yn ffurfio partneriaeth fygythiol iawn gyda Chris Sharp a sgoriodd 23 gôl y tymor diwethaf.
Llun: Gwefan y Saint yn cyhoeddi’r newyddion