Mae Prydeinwyr oedd ar y llongau cymorth i Gaza wedi siarad heddiw am eu profiadau.

Roedden nhw ymhlith y teithwyr ar y chwe llong a gafodd eu cipio gan Israel wrth iddyn nhw geisio torri trwy flocâd.

Roedd un, Cliff Hanley, 61 oed o Fryste, wedi cael ei grafu gan fwled yn y digwyddiad pan gafodd naw o brotestwyr eraill eu saethu’n farw.

Fe ddywedodd am hofrennydd Israel yn dod at eu llong … roedd yn gallu gweld llongau ar y dŵr meddai, ac yn gallu clywed saethu yn ogystal â sŵn fel bomiau’n ffrwydro.

Gwelodd deithiwr arall yn tynnu lluniau ac aeth i sefyll tu ôl iddo. Ond daeth y ffotograffydd yn darged amlwg i’r gynnau a dyna pryd y cafodd yntau ei anaf.

Cafodd ei gadw ar y llong â’i ddwylo mewn cyffion, a chael cadw dim ond ei foddion epilepsi.

Yn y carchar – stori ail ddyn

Tra cafodd Cliff Hanley ei gymryd i borthladd Ashdod yn Israel i “dref o bebyll”, roedd Ebrahim Musaji o Gaerloyw wedi cael ei gymryd i garchar Be’er Sheva, heb gysylltiad ag is-gennad Prydain.

Roedd wedi gweld un o’r bobol a gafodd ei saethu’n farw, a dechreuodd grio wrth ddisgrifio’i atgofion.

Honnodd fod y person hwnnw heb arfau a’i fod wedi cael ei saethu o’r hofrennydd.

Cafodd Ebrahim Musaji ei gadw mewn cyffion ar y llong heb fwyd na dŵr, na chael mynd i’r tŷ bach am 24 awr dywedodd.

Yng ngharchar Be’er Sheva, fe gafodd ei rwystro rhag cysylltu â’i deulu, a chafodd ei holi os oedd yn aelod o al Qaida.

Dywedodd y ddau ddyn na fyddai’r profiad ddim yn eu rhwystro rhag dychwelyd i Gaza, a’u bod yn bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol agos.

Llun: Cliff Hanley’n adrodd am ei brofiadau mewn cynhadledd i’r wasg (Gwifren PA)