Clare Whitehouse sy’n mwynhau gwyrddni’r Andes…
Aeth Clare Whitehouse i Batagonia yn 2005 fel athrawes ar ran y cynllun Dysgu Cymraeg yn y Wladfa yn disgwyl bod yna am flwyddyn.
Ond mae hi’n dal yna! Erbyn hyn mae’n gweithio fel cydlynydd i ochr academaidd y project ac yn byw yn Nhrevelin wrth droed yr Andes. Mae’n rhannu ychydig o’r profiad o fyw yng Nghwm Hyfryd.
Pan mae pobl yn gofyn pam dw i’n dal yma dw i’n dweud i mi syrthio mewn cariad yn gyntaf gyda’r ardal ac wedyn gydag un o’i thrigolion ac erbyn hyn rydyn ni’n byw mewn caban pren jyst tu allan bentref Trevelin. Mae pobl y rhan yma o’r byd yn arbennig ond erbyn hyn mae’r tirlun a’r natur wedi gwneud lle yn fy nghalon hefyd!
O le dw i’n ysgrifennu hwn dw i’n edrych ar y panorama sydd yn ymestyn o’r chwith o Fynydd Llwyd (ar ôl Llwyd ap Iwan mab Michael D. Jones) i’r Graig Goch (lle daeth y Rifleros ar eu taith gyntaf i archwilio’r Dyffryn) rownd i’r dde i i hen bont y pentref sydd yn croesi Afon Percy (roedd Percy Wharton yn un o’r mewnfudwyr cyntaf) i Orsedd y Cwmwl ac asgwrn cefn i fynyddoedd sydd yn arwain i Barc Cenedlaethol Los Alerces.
O gwmpas y caban mae pedwar hectar o dir felly mae tua chan coeden ceirios sydd yn hyfryd yn y gwanwyn gyda’u blodau persawrus yn ogystal â lot gormod o rosa mosqueta – rhosod gwyllt wedi’u mewnforio gan ymfudwyr oedd yn meddwl efallai y bydden nhw o ddefnydd ac sydd wedi ffeindio bod nhw’n tyfu’n andros o dda efo’r hinsawdd berffaith a dim cystadleuaeth am gynefin!
Erbyn hyn mae anifeiliaid yma hefyd – pedair caseg i gadw cwmni i Monty’r ci anferth a Jack y gath barus. Mae gennyn ni ffrind sydd yn dofi ceffylau yn ffordd yr Indiaid – Horse Whisperer go iawn! – ac felly mae o’n cadw dwy o’i brosiectau yma yn ogystal â’i gaseg ei hun a’n caseg ni. Roedd y ddwy sydd yn perthyn i Herni ac i ni yn hollol wyllt pan brynon ni nhw a phan ddaethon nhw lawr o’r lori oedd yn eu cludo yma aethon nhw ar garlam i ganol y rhosod gwyllt ac roedd hi’n dridiau cyn i ni hyd yn oed eu gweld nhw eto! Mae’n mynd i fod yn broses hir ac un sydd yn mynd i gymryd digon o amynedd i’w dofi gan fod ganddynt ofn o bopeth ond dyna beth sy’n dda am fyw yng ngwlad y manana – hir yw pob aros ond aros mae’n rhaid!
Pan feddyliwch chi am Batagonia dw i’n eitha sicr bod chi’n meddwl am eangderau’r Paith a gwastatiroedd Dyffryn Camwy – fel roeddwn i ers 5 mlynedd! Byddwch chi’n synnu gweld gwyrddni’r Andes. Yma o gwmpas y caban mae coed ceirios yn tyfu yn ogystal â’r coed gwyllt fel cipres, maiten a chaqui.
Mae esblygiad wedi annog y planhigion llai i fagu draen er mwyn amddiffyn eu hunain o’r tywydd ac o unrhyw anifail sydd am eu bwyta felly mae amryw o fathau o lwyni anghyfeillgar! Maen nhw wedyn yn creu cysgod perffaith i’r llu o adar sydd yn byw yma: un bore wrth yfed mate gwelon ni 16 math o adar mewn awr heb godi’r ysbienddrych! Fy ffefryn ydy math o gnocell y coed pitio sydd yn crio ei gri ac yn disgyn i yfed o’r tanc Awstraliaidd sydd yn casglu dŵr i ni ac i’r ceffylau! Hyd yn hyn mae’r De wedi gwrthsefyll y pwysau i ddefnyddio cemegau wrth ffarmio ac felly mae byd organig yn gadael bwyd i’r adar a mannau iddyn nhw nythu.