Mae’r Gweilch wedi cyhoeddi bod eu clo, Ian Evans wedi arwyddo cytundeb tair blynedd newydd gyda’r rhanbarth.
Bydd chwaraewr rhyngwladol Cymru yn aros yn Stadiwm Liberty tan ddiwedd tymor 2012/13.
Mae Evans wedi brwydro ‘nôl i ffitrwydd llawn ar ôl cyfnodau sylweddol ar yr ystlys ers dioddef anafiadau yn erbyn Seland Newydd ym mis Tachwedd 2008 ac wrth chwarae i Abertawe yn erbyn Pontypridd ym mis Hydref 2009.
“Rydw i wrth fy modd gallu arwyddo cytundeb newydd fel bod gen i dair blynedd arall gyda’r Gweilch,” meddai Evans.
“Rydw i am fod yn rhan o dîm sy’n adeiladu tuag at rywbeth arbennig, ac rwy’n edrych ymlaen at ddyfodol disglair fel rhan o dîm uchelgeisiol.
“Yn amlwg dw i wedi cael cwpwl o flynyddoedd anodd ond dw i’n edrych ymlaen at baratoi dros yr haf ar gyfer y tymor newydd a dychwelyd yn ffres – heb unrhyw anafiadau!”