Mae ymosodwr Cymru, Craig Bellamy wedi awgrymu y gallai ddychwelyd i’w dref enedigol a chwarae i Gaerdydd y tymor nesaf.

Fe ddywedodd Bellamy mai dim ond un opsiwn fyddai ganddo pe bai Man City yn ei ryddhau dros yr haf.

“Fe fyddai chwarae mewn rhan arall o Ewrop yn ormod o straen ar fy nheulu, am eu bod nhw’n byw yng Nghaerdydd. Felly dim ond un dewis fyddai gen i,” meddai’r Cymro wrth y BBC.

Mae yna amheuon ynglŷn â dyfodol Bellamy yn Eastlands ar ôl sïon nad ydy o’n cyd-dynnu gyda’r rheolwr, Roberto Mancini.

Dywedodd Craig Bellamy y byddai’n rhaid iddo gael sicrwydd bod Man City yn awyddus i’w gadw a’i chwarae cyn iddo benderfynu aros neu beidio.

“Fydda’i byth yn eistedd ‘nôl a chymryd yr arian. Alla’i ddim gwneud hynny ac fe fyddai’n edrych am her newydd.

“Byddwn i’n synnu pe bai’r her hwnnw yn Lloegr,” ychwanegodd Bellamy.