Mae cwmni hedfan Ryanair wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi gwneud elw dros y flwyddyn ariannol ddiwethaf wrth i nifer y teithwyr gynyddu er gwaetha’r dirwasgiad.
Fe wnaeth y cwmni o Iwerddon elw cyn treth o £281 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, er gwaetha’r ffaith iddyn nhw wneud colled o £150.5 miliwn y flwyddyn cynt.
Yn bennaf gyfrifol oedd cynnydd 14% mewn teithwyr, i 67 miliwn, a chwymp 29% mewn pris tanwydd, i £755.5 miliwn.
Dywedodd y cwmni ei fod o’n “falch” o wneud elw a’i fod o’n disgwyl cynnydd mawr arall mewn teithwyr ac elw’r flwyddyn yma – os nad oedd llwch folcanig Gwlad yr Ia yn cael mwy o effaith.
Ychwanegodd Ryanair fod cau’r awyr dros Ewrop “yn aml ac yn ddiangen” wedi costio £42.3 miliwn i’r cwmni.
Dywedodd y cwmni na ddylai teithwyr oedd ddim yn gallu hedfan oherwydd y llwch folcanig ddisgwyl iawndal mawr o ystyried pa mor rhad oedd y tocynnau i hedfan gyda’r cwmni.
Roedd cwymp mawr yn niwydiant twristiaeth Iwerddon hefyd wedi taro elw’r cwmni, meddai, ac roedd yn feirniadol o lywodraeth y wlad am godi trethi ar dwristiaeth.