Mae BP wedi dechrau ar y gwaith o dorri’r bibell olew sy’n gollwng yn Gwlff Mecsico er mwyn cysylltu twmffat iddo.
Mae cyswllt fideo i gamera dan y dŵr yn dangos y robotiaid tanfor yn defnyddio llifiau bychan i dorri llwybr tuag at y bibell.
Dywedodd llefarydd ar ran BP, Graham MacEwen bod y robotiaid yn clirio’r ffordd ar gyfer llif mwy o faint, mwy pwerus allai dorri drwy’r brif bibell a rhoi’r twmffat arno.
Os ydi BP yn llwyddiannus, fe allai’r twmffat ymatal y rhan fwyaf o’r olew rhag dianc o’r bibell a chaniatáu iddo gael ei sugno i’r wyneb. Mae’r cwmni yn disgwyl dechrau’r gwaith o lifio’r bibell yfory.
Yn y cyfamser fe fydd yr Arlywydd Barack Obama yn cyfarfod gyda chomisiwn annibynnol sy’n ymchwilio i’r trychineb.
Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn y byddai Barack Obama yn cwrdd â Bob Graham, cyn lywodraethwr Florida, a William K Reilly, cyn bennaeth Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd y wlad.
Mae’n dri diwrnod ers i BP gyhoeddi nad oedd eu cynllun nhw i orchuddio’r bibell gyda mwd a sment er mwyn atal yr olew rhag llifo i’r môr wedi gweithio.
Dywedodd Barack Obama ei fod o’n “grac” ac “wedi torri’i galon” wrth glywed nad oedd y cynllun wedi bod yn llwyddiant.
Dechreuodd yr olew ollwng ar 20 Ebrill ar ôl i blatfform olew Deepwater Horizon BP ffrwydro oddi ar arfordir Louisiana, gan ladd 11 o weithwyr.
Yn y chwe wythnos ers hynny mae’r llywodraeth yn dyfalu bod rhwng 19.7 miliwn a 43 miliwn galwyn o olew wedi llifo i’r Gwlff gan effeithio ar draethau a gwlypdiroedd llawn bywyd gwyllt.