Fe fydd rhaid i Forgannwg berfformio’n eithriadol heddiw os ydyn nhw am guro Surrey a chael eu pumed buddugoliaeth o’r bron.
Maen nhw 76 ar y blaen yn yr ail fatiad ar ddiwrnod ola’r gêm Bencampwriaeth, ar ôl sgorio 7-0. Gêm gyfartal yw’r canlyniad mwya’ tebyg.
Y bowliwr 20 oed James Harris oedd arwr Morgannwg wrth iddyn nhw ddal Surrey i 303-9 yn y batiad cynta’.
Fe lwyddodd i gymryd dwy wiced mewn dwy bêl, gan gynnwys un Mark Ramprakash am 73.
Y wicedwr Steve Davies oedd sgoriwr mawr arall Surrey gydag 83.
Llun: James Harris, arwr Morgannwg – eto