Mae mwy na 170 o weision sifil yn ennill mwy o gyflog na’r Prif Weinidog, yn ôl ffigurau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw.
Mae David Cameron wedi datgelu enwau pob swyddog sy’n ennill mwy na £150,000 y flwyddyn – er mwyn bod yn “fwy agored”.
Dim ond cam cynta’ yw hwn – y disgwyl yw y bydd enwau 9,000 o weision sifil eraill yn cael eu cyhoeddi o fewn y misoedd nesa’. Nhw sy’n ennill mwy na £58,000.
Mae’n bosib hefyd y bydd manylion cyflogau rhagor o weithwyr cyhoeddus yn cael eu datgelu, gan gynnwys prifathrawon a doctoriaid.
Mae yna fwy na 20 o swyddogion yn Weinyddiaeth Amddiffyn ar y rhestr ond y prif enillydd yw pennaeth y Swyddfa Fasnachu Teg sy’n cael mwy na £275,000 – bron ddwbl cyflog y Prif Weinidog o £142,500.
O’r 172 enw sydd wedi eu cyhoeddi heddiw, dim ond 32 sy’n ferched.
Llun: David Cameron – llai na’r gweision