Mae papurau newydd yn yr Alban yn awgrymu y gallai chwaraewyr Caerdydd, Joe Ledley, ymuno gyda Celtic.

Yn ôl y Scottish Daily Record, roedd y seren 24 oed yn Glasgow brynhawn ddoe yn Celtic Park yn gweld yr adnoddau.

Fe allai ymuno gyda’r clwb o’r Alban yn rhad ac am ddim oherwydd bod ei gytundeb gyda Chaerdydd yn dod i ben.

Mae cyfarwyddwyr yr Adar Glas wedi dweud mai un o’u prif amcanion yw cadw Ledley yng Nghaerdydd.

‘Licio Celtic’

Yn ôl y Record, roedd y Cymro wedi licio’r hyn oedd i’w weld yn Celtic ac mae’n un o brif dargedau Neil Lennon, sydd ar fin cael ei gadarnhau yn rheolwr ar y clwb.

Ond fe allai wynebu cystadleuaeth gan fod clybiau yn Lloegr hefyd ar ôl Ledley sydd, ym marn llawer, werth tua £5 miliwn.

Mae clybiau fel Blackburn, Wigan a Stoke wedi dangos diddordeb ond fe allai’r chwaraewr fod yn disgwyl cyflog o tua £20,000 yr wythnos.