Mae Heddlu De Cymru yn apelio am lygaid dystion ar ôl dod o hyd i gorff dyn ym Mhorth, ger Pontypridd.
Cafodd y corff ei ddarganfod ar Stryd y Fynwent ddoe ac mae’r heddlu yn trin y farwolaeth fel un anesboniadwy ar hyn o bryd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101. Does dim gwybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd.