Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw am ymchwiliad llawn i ymosodiad Israel ar longau cymorth Gaza ac wedi condemnio’r trais.

Ar ôl cyfarfod brys o’r Cyngor Diogelwch, maen nhw hefyd wedi galw am ryddhau’r llongau a’r teithwyr sy’n cael eu dal gan Israel ar hyn o bryd.

Yn ôl papur y Jerusalem Post, roedd yna 480 o bobol yn y ddalfa ac mae 48 eisoes wedi eu hanfon i faes awyr i’w hedfan o’r wlad.

Fe fydd yr awdurdodau’n penderfynu faint sy’n cael eu cadw’n gaeth a faint fydd yn cael eu hanfon o Israel.

Y dadlau tros beth ddigwyddodd

Erbyn hyn, mae’n ymddangos mai naw o brotestwyr a gafodd eu lladd pan aeth milwyr Israel ar fwrdd un o’r chwe llong oedd yn ceisio cario nwyddau dyngarol i Gaza, sydd dan reolaeth y mudiad gwrth-Israelaidd, Hamas.

Mae Israel yn dweud bod ymgyrchwyr ar fwrdd y llong wedi ymosod ar y milwyr ac mae wedi dangos lluniau fideo o filwyr yn cael eu curo.

Maen nhw hefyd yn mynnu bod y llongau cymorth wedi mynd ati’n fwriadol i greu gwrthdaro.

Ond mae’r protestwyr, sy’n dod o sawl gwlad ac yn cynnwys gweithwyr dyngarol yn ogystal ag ymgyrchwyr gwleidyddol yn cyhuddo’r Israeliaid o ddechrau saethu’n ddireswm.

Condemnio

Beth bynnag yw’r ffeithiau, mae Israel wedi cael ei chondemnio’n eang, yn arbennig gan Dwrci, cartref rhai o’r llongau. Ac mae’r galwadau’n cynyddu am godi’r blocâd sy’n atal cymorth rhag cyrraedd y Palesteiniaid yn Gaza.

Roedd yna brotestiadau gan gefnogwyr y Palesteiniaid mewn sawl dinas ar draws y byd ddoe, gan gynnwys Llundain, ac mae’r cyfryngau yn Israel yn condemnio’r llywodraeth yno am wneud smonach o’r cyrch.

Neithiwr, fe fu’r Prif Weinidog, David Cameron, yn siarad ar y ffôn gyda Phrif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, gan roi sicrwydd fod gwledydd Prydain yn dal i gefnogi Israel ond bod angen iddi ymateb i’r feirniadaeth.

Mae Benjamin Netanyahu wedi canslo cyfarfod gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau heddiw.

Llun: Protest  yn Llundain ddoe (Gwifren PA)