Mae o leiaf 150 wedi marw a miloedd yn ddigartref ar ôl storm drofannol sydd wedi achosi difrod o Fecsico i Nicaragua.

Mae degau o bobol yn dal ar goll wrth i achubwyr frwydro drwy’r tirlithriadau a’r llifogydd er mwyn cyrraedd cymunedau diarffordd.

Yn ôl y swyddfa dywydd fe fydd yna dri diwrnod arall o law o ganlyniad i Storm Drofannol Agatha, wnaeth daro’r ardal dydd Sadwrn, ac fe allai hynny arwain at fwy o lifogydd.

Mae’r gwaith achub yn Guatemala wedi ei gymhlethu hyd yn oed yn fwy ar ôl i losgfynydd ffrwydro ger y brifddinas dydd Iau gan orchuddio’r ardal gyda llwch.

Dywedodd llywodraeth Guatemala bod 123 wedi marw a bod 90 yn dal ar goll o ganlyniad i’r storm drofannol. Yn rhanbarth Chimaltenango y wlad claddodd tirlithriadau sawl pentref gwledig gan ladd o leiaf 60 o bobol.

“Mae yna lot o bobol marw ac mae’r ffyrdd ar gau,” meddai Llywodraethwr Chimaltenango, Erick de Leon. “Mae angen dŵr, bwyd, dillad, blancedi – ond yn fwy na dim, arian.”

Mae tua 110,000 o bobol eisoes wedi eu symud o’u tai, y rhan fwyaf i lochesi dros dro, yn Guatemala.

Dros y ffin yn Honduras mae miloedd wedi ffoi o’u tai, ac mae o leiaf 15 o bobol wedi marw o ganlyniad i’r storm.

Gorlifodd dau argae ger y brifddinas Tegucigalpa i afon gerllaw, ac mae swyddogion wedi rhybuddio pobol i gadw draw.

Yn El Salvador, mae 179 o dirlithriadau wedi eu cofnodi a 11,000 o bobol wedi eu symud. Dywedodd yr Arlywydd Mauricio Funes bod naw o bobol wedi marw hyd yn hyn.

Rhybuddiodd y llwyodraeth bod Afon Acelhuate, sy’n mynd drwy ganol San Salvador, yn uchel iawn ac fe allai orlifo drwy strydoedd y brifddinas.