Mae Iran eisoes wedi casglu mwy nag dwy dunnell o wraniwm wedi’i gyfoethogi, yn ôl adroddiad gan asiantaeth atomig y Cenhedloedd Unedig ryddhawyd heddiw.
Fe fyddai dwy dunnell o wraniwm yn ddigon ar gyfer creu dau daflegryn niwclear. Mae’r llywodraeth yn Tehran yn honni eu bod nhw eisiau defnyddio’r wraniwm er mwyn creu trydan.
Mae’r Unol Daleithiau a phedwar aelod arall o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig – Rwsia, China, Prydain a Ffrainc – wedi cefnogi sancsiynau newydd ar y wlad sy’n gwrthod rhoi’r gorau i gyfoethogi wraniwm.
Yn y cyfamser mae Asiantaeth Egni Atomig Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig wedi dweud fod Syria yn parhau i wrthod datgelu a oedd ffatri gafodd ei ddinistrio tair blynedd yn ôl gan awyrennau Israel yn cynhyrchu plwtoniwm.
“Dyw Syria heb gydweithio gyda’r asiantaeth ers Mehefin 2008,” meddai’r Asiantaeth Egni Atomig Rhyngwladol.
Mae Syria yn gwadu bod Iran a Gogledd Korea wedi eu helpu nhw i ddatblygu rhaglen niwclear yn dawel bach.